Diolch am gofrestru i gymryd rhan yn 'Get Arty!'
Ar y dudalen hon gallwch lawrlwytho'r holl adnoddau o'r pecyn, yn ogystal â gweld sut i dalu unrhyw arian rydych chi'n ei godi ar gyfer Mencap.
Adnoddau ar gyfer gwersi
Cyflwyniad
Defnyddiwch y cyflwyniad hwn i gyflwyno 'Get Arty!' a chael eich disgyblion i feddwl am artistiaid a gwahanol fathau o gelfyddyd.
Cynllun cyfarfod boreol
Defnyddiwch y canllaw hwn i gynllunio cyfarfod boreol ble gallwch gyflwyno 'Get Arty!' i'ch disgyblion.
Pecyn gweithgaredd - Pypedau Bys
Mae'r pecyn hwn ar gyfer gweithgaredd rhif 1 - pypedau bys. Mae'n dangos pob cam o'r gweithgaredd, gan gynnwys canlyniadau dysgu a chysylltiadau â'r cwricwlwm.
Pecyn gweithgaredd - Byd mewn Bocs
Mae'r pecyn hwn ar gyfer gweithgaredd rhif 2 - byd mewn bocs. Mae'n dangos pob cam o'r gweithgaredd, gan gynnwys canlyniadau dysgu a chysylltiadau â'r cwricwlwm.
Pecyn gweithgaredd - Doliau Pryderon
Mae'r pecyn hwn ar gyfer gweithgaredd rhif 3 - doliau pryderon. Mae'n dangos pob cam o'r gweithgaredd, gan gynnwys canlyniadau dysgu a chysylltiadau â'r cwricwlwm.
Adnoddau i hyrwyddo 'Get Arty!'
Llythyr ar gyfer rhieni
Rhannwch y llythyr hwn â rhieni eich disgyblion i adael iddyn nhw wybod y bydd eu plant yn cymryd rhan yn 'Get Arty!'
Poster
Defnyddiwch y poster hwn i ledaenu'r neges am 'Get Arty!' yn eich ysgol.
Tystysgrif
Rhowch y tystysgrif hwn, gan Jan Tregelles, Prif Swyddog Gweithredol Mencap, i'ch disgyblion fel gwobr am gymryd rhan yn 'Get Arty!'
Sticeri
Rhannwch y striceri hyn â'ch disgyblion sy'n cymryd rhan yn 'Get Arty'.
Sut i dalu'r arian rydych chi wedi'i godi
Mae nifer o ffyrdd syml y gallwch chi anfon arian rydych chi'n ei godi trwy 'Get Arty!' at Mencap:
- Anfon siec yn daladwy i:
Mencap Fundraising Department
Mencap National Centre
123 Golden Lane
London
EC1Y 0RT - Gwneud rhodd ar-lein.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis eich bod yn rhoi rhodd ar ei ben ei hun a soniwch bod eich rhodd ar gyfer 'Get Arty!' yng Nghymru yn y blwch 'Buasem wrth ein boddau'n clywed mwy ynghylch pam rydych chi'n rhoi arian heddiw'. - Gwneud taliad uniongyrchol - cysylltwch â ni i gael ein manylion banc trwy e-bostio community.fundraising@mencap.org.uk neu ffonio 020 7696 6946.
- Gallwch hefyd godi arian i Mencap trwy gychwyn tudalen 'Just Giving'.
Ynglŷn ag 'AccessArt'
Mae 'AccessArt' yn hwyluso gweithdai a digwyddiadau celfyddyd gweledol o safon uchel ar gyfer cynulleidfa eang ac yn rhannu'r canlyniadau mewn casgliad datblygiadol o adnoddau dysgu ac addysgu ysbrydoledig o safon uchel.
Helpodd 'AccessArt ni i lunio cysyniad 'Get Arty!' a datblygu'r gweithgareddau celfyddyd a welwch ym mhecyn 'Get Arty!'.
Ewch i www.accessart.org.uk am ragor o wybodaeth.