Rhowch wahoddiad i ffrindiau neu gydweithwyr, rhowch y tegell ymlaen ac ymbleserwch mewn cacennau bendigedig!

Cofrestwch i gael eich pecyn Te Parti Mawr wedi'i lenwi â phopeth sydd ei angen arnoch i groesawu casgliad gwych o bobl.

Cofrestrwch nawr!

Gwyliwch ein fideo

Cynhaliwch De Parti Mawr yn y gwaith, yn yr ysgol neu gyda theulu a ffrindiau ar ddydd Mercher 8 Tachwedd a chodi arian hanfodol ar gyfer Mencap.

Gwyliwch ein fideo i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r math o barti y gallech chi ei gynnal.

Cake and tea cup on table with bunting in the background

Cynnal eich parti eich hun!

Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n bwriadu cynnal eich Te Parti Mawr er mwyn i ni fedru anfon ryseitiau, fflagiau cacen, addurniadau a rhagor o syniadau codi arian!

Cofrestrwch yn awr

About Mecap's Big Tea Party

Yn Mencap fe wyddom bod yna bobl ag anabledd dysgu nad ydynt bob amser yn cael cyfleoedd i gymdeithasu.

Datgelodd un o'n harolygon diweddar bod bron i un o bob tri o bobl ag anabledd dysgu yn treulio llai nag awr y tu allan i'w cartrefi ar ddydd Sadwrn nodweddiadol.

Gallwch ein helpu i newid hyn ac chefnogi pobl ag anabledd dysgu trwy godi arian yn eich Te Parti Mawr Mencap eich hun!

Big Tea Party leaflets and balloons

Cael y pethau angenrheidiol ar gyfer eich parti!

Rydyn ni wedi creu adnoddau gwych i'ch helpu i drefnu a chynnal eich parti.

Unwaith yr ydych chi wedi cofrestru gallwch lawrlwytho gwahoddiadau, baneri a phosteri.  Byddwn hefyd yn anfon eich pecyn rhad ac am ddim atoch chi.

Cofrestrwch i gael eich pecyn rhad ac ddim

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn clywed am eich te parti!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio #MencapTeaParty ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu sut aeth eich te parti a sut y gwnaethoch chi ddefnyddio'r adnoddau hyn.

Sut i dalu'r arian a godwyd gennych

Mae nifer o ffyrdd syml y gallwch chi anfon arian rydych chi'n ei godi trwy 'Get Arty!' at Mencap:

  • Anfon siec yn daladwy i:
    Mencap Fundraising Department
    Mencap National Centre
    123 Golden Lane
    London
    EC1Y 0RT
  • Gwneud rhodd ar-lein.
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis eich bod yn rhoi rhodd ar ei ben ei hun a soniwch bod eich rhodd ar gyfer Te Parti Mawr Mencap yng Nghymru yn y blwch 'Buasem wrth ein boddau'n clywed mwy ynghylch pam rydych chi'n rhoi arian heddiw'.
  • Gwneud taliad uniongyrchol - cysylltwch â ni i gael ein manylion banc trwy e-bostio community.fundraising@mencap.org.uk neu ffonio 020 7696 6946.
  • Gallwch hefyd godi arian i Mencap trwy gychwyn tudalen 'Just Giving'.
Woman with red hair wearing light pink jacket stood smiling into camera.

Sut mae eich cefnogaeth yn helpu

Pa un a yw eich te parti yn fawr neu'n fach, bydd unrhyw arian rydych chi'n ei godi yn mynd tuag at helpu pobl ag anabledd dysgu fyw bywydau llawn.

Gwrandewch ar eu storïau