Ydych chi'n byw yng Nghymru?  Mae ein prosiectau a'n gwasanaethau wedi'u llunio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw eu bywydau fel maen nhw'n dymuno - i fod yn fwy annibynnol a chwarae mwy o ran yn y gymuned. 

Rhai o'n prosiectau eraill

Darllenwch am rai o'r prosiectau eraill y mae Mencap Cymru yn eu rhedeg ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

A child with a learning disability at Hensol Hospital, South Wales, 1967

Hidden Now Heard, funded by the National Lottery Heritage Fund.

Hidden now Heard, was a Heritage Lottery-funded project, which showcased the hidden heritage of people with a learning disability in Wales. Between 2014 and 2017 the project captured the hidden and often painful living memories of former residents and staff from six of Wales’ long-stay hospitals.

Working in partnership with the National History Museum, the project created exhibitions focusing on local long-stay hospitals by giving voice to former patients and staff, when previously they were silenced.

For more information about the project, contact: paul.hunt@mencap.org.uk.

Mynd i'r afael â throsedd casineb - Cadw Cymru'n Ddiogel

Mae Cadw Cymru'n Ddiogel yn brosiect ar y cyd rhwng Mencap Cymru a Heddlu De Cymru, sydd wedi'i lunio i wneud pobl yn fwy ymwybodol o'u diogelwch personol, a'u hannog i roi gwybod i'r heddlu am drosedd (yn enwedig trosedd casineb) a chwilio am help os bydd ei angen arnyn nhw.

Mae'r cynllun yn caniatáu i bobl ag anabledd dysgu rannu gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd maen nhw'n cyfathrebu â'r heddlu, yn ogystal â chael mynediad at linell ffôn un pwrpas petai arnyn nhw angen cysylltu â nhw.

Mae Mencap Cymru yn rhedeg gweithdai a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch personol ac yn cefnogi pobl i gofrestru ar gyfer y cynllun.  Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, neu i wneud cais am weithdy, cysylltwch ag: information.wales@mencap.org.uk.