Beth oedd Curaduron Dinesydd?
Rhwng 2022 a 2024 casglodd y tri grŵp hanes llafar 40 o bobl ag anabledd dysgu, aelodau o’r teulu neu eraill sydd â chysylltiad â’r grwpiau.
Ochr yn ochr â hanesion llafar, fe wnaeth bob grŵp cyd-greu arddangosfa a gynhaliwyd yn eu hardal.
Darganfyddwch fwy isod.
Mencap Cas-gwent
Gan ddathlu 50 mlynedd o hanes, roedd gan Mencap Cas-gwent ffocws arbennig ar gyfer eu prosiect. Wedi’u ffurfio gan grŵp o rieni lleol, nhw bellach yw’r drydedd genhedlaeth o’r un teulu wrth galon y grŵp. Wrth ddathlu symud i’w cartref newydd yng nghanol Cas-gwent, maen nhw wastad wedi bod wrth galon y gymuned, ac roedd yr arddangosfa a luniwyd yn adlewyrchu hynny. Fe’i cynhaliwyd yn eu hadeilad newydd, Yr Ysgol Fwrdd ym mis Hydref 2023.
Mencap Ceredigion
Penderfynodd y grŵp weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Aberystwyth i gynnal eu harddangosfa. Roedd hyn yn golygu bod ganddynt le penodol i gynnal yr arddangosfa a chefnogaeth ac adnoddau'r amgueddfa. Roedd hefyd yn golygu bod y bobl oedd wedi rhannu eu straeon a chyfrannu gwaith celf ac arteffactau ar gyfer yr arddangosfa yn gallu gweld eu hunain mewn arddangosfa amgueddfa - rhywbeth na fyddai llawer o bobl ag anabledd dysgu yn meddwl oedd yn bosibl. Daeth llawer â nifer o ffrindiau ac aelodau o'r teulu i ymweld yn ystod yr arddangosfa.
Mencap Sir Benfro (Gerddi Furiog Ystagbwll)
Mae Mencap Sir Benfro yn rhedeg Gerddi Muriog Ystagbwll sydd ar agor i ymwelwyr. Roedd yn gwneud synnwyr iddynt gael eu harddangosfa yn eu caffi, ac o amgylch y tiroedd.
Cyfwelwyd ystod o bobl a gefnogwyd gan y grŵp. Canfu'r gwirfoddolwyr eu bod wedi dysgu llawer iawn am y cyfweleion wrth siarad am arddio. Yn aml, gallai'r rhai a oedd yn cael trafferth ag emosiynau fynegi eu hunain yn well wrth siarad am y gerddi. Yn ogystal, bu’r gwirfoddolwyr yn cyfweld ag amrywiaeth o ymddiriedolwyr i roi hanes y gerddi a grŵp Mencap at ei gilydd.
Gwnaethant yr arddangosfa yn rhan barhaol o'r caffi/siop ac mae eisoes yn ennyn diddordeb a sgwrs am yr hyn y mae'r grŵp yn ei wneud gan ymwelwyr.
Pecyn Cymorth Curaduron Dinesydd
Fel rhan o’r prosiect Curaduron Dinesydd, fe wnaethom ddatblygu pecyn cymorth i helpu grwpiau cymunedol lleol eraill i redeg eu prosiectau treftadaeth eu hunain.
Gallwch lawrlwytho copi PDF dwyieithog o’r pecyn cymorth yma:
Rydym hefyd wedi datblygu’r fideo byr hwn gyda’n hawgrymiadau gorau, o ddeng mlynedd o gyflawni prosiectau treftadaeth.
I weld y pecyn cymorth ar-lein gweler isod.
Pecyn Cymorth Fideo Curaduron Dinesydd
Mae tîm Curaduron Dinesydd wedi creu pecyn cymorth i helpu grwpiau eraill i redeg eu prosiectau treftadaeth. Mae'r fideo hwn yn rhoi rhai pethau i'w hystyried wrth redeg prosiect hanes llafar.