Pa un a ydych chi'n berson ag anabledd dysgu, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind, gallwn roi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a'u cefnogi i gael gafael â gwasanaethau a herio penderfyniadau.
Mae ein llinell gymorth ddwyieithog ar agor rhwng 9yb a 5yh bob diwrnod o'r wythnos, a 10am tan 4pm ar benwythnosau a gwyliau banc. Mae’r llinell gymorth am ddim, a gall gynnig cyngor a gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.

Gweithwyr Achos Rhanbarthol
Gweler isod i ddarganfod mwy am ein gweithwyr achos rhanbarthol.
Mae llinell gymorth Anabledd Dysgu Cymru yn rhan o'n Tîm Cyngor a Gwybodaeth, dan arweiniad Derek Adams.
Angela O'Callaghan - Gweithiwr Achos Rhanbarthol De Cymru
Lle mae hi'n cwmpasu:
Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, a Bro Morgannwg.
Mae Angela wedi gweithio i Mencap Cymru ers dros 30 mlynedd. Mae’n arbenigo mewn amddiffyn plant a rhieni ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac yn cael gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau trwy weithio gydag Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Y tu allan i’r gwaith, mae Angela yn mwynhau darllen hunangofiannau, Coronation Street, ymweld â’r arfordir a phrydau bwyd gyda’r teulu.

Rhodri Dixon - Gweithiwr Achos Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Lle mae’n cwmpasu:
Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, a De Powys.
Ymunodd Rhodri â Mencap ym mis Mai 2020. Mae’n arbenigo mewn materion cyflogadwyedd a mewnfudo ac mae’n teithio’n rheolaidd o amgylch ei ardal i fynychu digwyddiadau gyda’i wirfoddolwyr.
Mae Rhodri’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu a’i ‘pooches’ a blasu bwydydd gan gynnwys bwyd Môr y Canoldir.

Sion Jones a Shelley Lewis - Gweithiwr Achos Rhanbarthol Gogledd Cymru (Cyfnod Mamolaeth)
Lle maent yn eu cwmpasu:
Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gogledd Powys
Mae Sion a Shelley ar y cyd yn gweithio dros gyfnod mamolaeth fel Gweithiwr Achos Gogledd Cymru. Mae Shelley wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn Mencap Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf ac ochr yn ochr â’r rôl hon mae’n rheoli prosiect blynyddoedd cynnar yn Ynys Môn.
Sion yw ein Harweinydd Polisi a Dylanwadu, gan weithio ar nifer o ymgyrchoedd sydd gennym ar lefel genedlaethol, a sicrhau bod y bobl rydym yn eu cefnogi yn arwain ein gwaith.

Boreau Coffi Rhithiol Misol
Am 10.30 yb ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, mae’r tîm yn cynnal bore coffi rhithwir i unrhyw un sydd eisiau sgwrsio am bethau sy’n digwydd yn eu bywyd, neu i bobl a hoffai ychydig o gwmni.
