Mencap Cymru yw llais anabledd dysgu yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw byd ble mae pobl yn gwrando ar bobl ag anabledd dysgu, yn eu cynnwys ac yn eu gwerthfawrogi cymaint â phawb arall.
Mae arnon ni eisiau i bawb gael y cyfle i gyflawni'r pethau y mae arnyn nhw eisiau eu cyflawni mewn bywyd.
Mae popeth rydyn ni'n wneud ynghylch gwneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ar bobl ag anabledd dysgu, yn eu cynnwys ac yn eu gwerthfawrogi cymaint â phawb arall.

Cysylltu â MencapWISE
Mae MencapWISE ar gael i bawb yng Nghymru, pa un a ydych yn berson ag anabledd dysgu, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind.
Gallwn roi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu herio penderfyniadau.
Ffoniwch 0808 8000 300 neu lenwi ein ffurflen gyswllt i ddod i gysylltiad â ni.
Mae newid yn bosibl
Nid dim ond y funud hon rydyn ni'n cefnogi pobl - rydyn ni'n credu bod newid yn y dyfodol yn bosibl i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Rydyn ni'n ymgyrchu ar gyfer newid trwy bwyso ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chynghorau lleol i wneud yn siŵr bod pobl ag anabledd dysgu yn cael byw'r bywydau y maen nhw'n eu dewis.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion, yr heddlu ac ysbytai i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch materion anabledd dysgu.
Find out more about Mencap
There's lots of useful information about Mencap on our main website, including details of our organisation's vision, mission and values, as well as Royal Mencap Society's history.

Ewch i ymweld â'n prif wefan
Mae gan ein prif wefan, www.mencap.org.uk, lawer o wybodaeth am Mencap fel mudiad, gan gynnwys ein nodau, ein hadroddiadau, ein hanes a'n gwerthoedd.
Chwiliwch trwy adran Ynglŷn â ni ein prif wefan i gael rhagor o wybodaeth.