Gyda'n gilydd fe allwn ni greu byd ble mae pobl yn gwrando ar bobl ag anabledd dysgu, yn eu cynnwys ac yn eu gwerthfawrogi cymaint â phawb arall.
Ble gall y 70,000 o bobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru deimlo'n falch o'r hyn ydyn nhw a chael eu derbyn gan gymdeithas.
Mae arnon ni eisiau i chi, eich teulu a'ch ffrindiau ymuno â ni i ymgyrchu, codi arian a gwirfoddoli ochr yn ochr â phobl ag anabledd dysgu - allwn ni ddim meddwl am ffordd mwy gwerthfawr i chi dreulio eich amser!
Codi arian i Mencap
Mae cymaint o ffyrdd i chi gymryd rhan a helpu i godi arian i Mencap a chael hwyl yr un pryd!
Pam na wnewch chi roi cynnig arni?
Ewch i'n prif wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Rhowch arian i Mencap
Ar hyn o bryd mae 70,000 o bobl yng Nghymru ag anabledd dysgu.
Trwy roi arian i Mencap fe fyddwch chi'n helpu pobl ag anabledd dysgu yn uniongyrchol i ddatblygu medrau a magu hyder er mwyn byw bywyd llawn a phrysur.
Ymgyrchu ar ran Mencap
Oes arnoch chi eisiau i ni newid y byd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu?
Chwiliwch am wybodaeth am ein hymgyrchoedd ar ein prif wefan a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Gweithiwch gyda ni
Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl weithgar a brwdfrydig i ymuno â Mencap.
Wrth weithio gyda ni fe gewch chi lawer o gyfleoedd i ddatblygu fel person, cefnogwr, arbenigwr, cydweithiwr, arweinydd a gweithredwr.
Yn gyfnewid am hyn fe fyddwn ni'n cynnig i chi'r her, yr hwyl a'r rhyddid i fod y gorau y gallwch.
Chwiliwch am y cyfleoedd sydd ar gael yn Mencap ar ein safle chwilio am swydd.