Mae Mencap Cymru eisiau i Gymru fod y lle gorau i fyw i bobl ag anabledd dysgu.

Mae popeth a wnawn yn ymwneud â sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu cynnwys.

People with a learning disability taking part in Cardiff Pride 2022

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Chwiliwch am wybodaeth am waith, gan gynnwys y prosiectau rydyn ni'n wneud, yn ogystal â'r gwasanaethau ledled Cymru sy'n cefnogi pobl ag anabledd dysgu i gael dweud eu dweud a byw'n fwy annibynnol.

Smiling woman wearing a striped top and phone headset whilst sat using her computer in an office

Cysylltu â Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru

Mae Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar gael i bawb yng Nghymru, pa un a ydych yn berson ag anabledd dysgu, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind.

Gallwn roi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu herio penderfyniadau.

Ffoniwch 0808 8000 300 neu lenwi ein ffurflen gyswllt i ddod i gysylltiad â ni.

Ewch i'r ffurflen gyswllt