Rydym yn gymuned gyfeillgar a gweithgar o deuluoedd sy'n cefnogi ein gilydd trwy bleserau a heriau'r blynyddoedd cynnar. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau sy’n ystyriol o deuluoedd a hefyd yn darparu cyfleoedd i rieni sy’n ofalwyr ddod at ei gilydd i gael cymorth gan gymheiriaid.

Mae ein prosiect peilot Yma a Heddiw yn dod â theuluoedd a gwasanaethau ynghyd, ac mae ein rhaglen E-PAtS yn helpu teuluoedd i ddatblygu rhwydwaith cymorth cadarnhaol. Mae ein llyfrgell deganau rhad ac am ddim yn rhoi mynediad i deuluoedd at eitemau ac offer synhwyraidd pan fydd ei angen arnynt.

Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan y rhieni a gofalwyr sy’n rhannu eu harbenigedd a’u hamser gyda ni yn hael. Gyda'n gilydd ein nod yw gwneud Ynys Môn yn lle gwych i blant ag anabledd dysgu dyfu a ffynnu.
