Am y Prosiect

Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gan weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, nododd Mencap Cymru leoliadau ar gyfer toiled Lleoedd Newid yn y sir. Ymgynghorwyd â phobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd/gofalwyr, sefydliadau, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill, Pafiliwn Chwaraeon Corwen.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Changing PlacesLogo

Pafiliwn Corwen, Sir Ddinbych

Yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth adnabuwyd Pafiliwn Chwaraeon Corwen fel safle’r cyfleuster mannau newid modiwlaidd. Cyngor Tref Corwen sydd biau Pafiliwn Corwen.

Penodwyd Chester Composites Ltd yn gontractwr ar gyfer y gwaith hwn ym mis Gorffennaf 2024.

Bydd y gwaith yn dechrau yn hydref 2024 ac yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2025.

Denbighshire Council Logo

Beth yw cyfleuster Lleoedd Newid?

Mae'r Consortiwm Lleoedd Newid yn dweud "Nid yw toiledau hygyrch safonol (neu "doiledau i'r anabl") yn darparu meinciau newid na theclynnau codi ac mae'r rhan fwyaf yn rhy fach ar gyfer mwy nag un person. Heb doiledau Lleoedd Newid, mae'r person ag anableddau yn cael ei roi mewn perygl, a mae teuluoedd yn cael eu gorfodi i beryglu eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain drwy newid eu hanwyliaid ar lawr toiled.”

Er mwyn cael ei alw’n doiled Lleoedd Newid, a defnyddio’r logo a chael ei gofrestru ar y safle, rhaid i gyfleuster Lleoedd Newid fodloni’r gofynion sylfaenol a nodir ar eu gwefan.

The inside of a Changing Places toilet