Codi arian Sky Dive

Ar Fedi'r 21ain, aeth 8 o gefnogwyr dewr i'r awyr i godi £4,318 ar gyfer Ystafell Synhwyraidd Jan Kench ym Mryn Siriol!

Helpodd hyn i wneud cynnydd enfawr tuag at y targed o £25,000 i greu ystafell synhwyraidd i'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi yng Nghanolfan Seibiant Bryn Siriol. Felly mae'n rhaid i ni ddweud diolch yn fawr iawn i chi gyd.

A picture of the people who sky dived to raise money for Bryn Siriol sensory room

Digwyddiad Cynghrair Bywyd Da am Gartrefi nid Ysbytai

Mynychodd y tîm Ymgysylltu ddigwyddiad y Gynghrair Bywyd Da yn y Senedd ar Gartrefi nid Ysbytai, ym mis Medi 2025.
Gwelsom gyflwyniadau pwerus am yr angen am well cefnogaeth gymunedol i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig. Nid cartref yw ysbyty.

Good Life Alliance event in the Senedd on Homes not Hospitals September 2025

Swyddog Ymgysylltu Sara Pickard

Yn ddiweddar, rhoddodd ein Swyddog Ymgysylltu Sara gyfweliad i'r BBC ynglŷn â'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer iechyd pobl ag anableddau dysgu.

Cyhoeddwyd hyn ym mis Medi 2025.

Sara Pickard's picture for the BBC, where she gave an interview

Gwasanaeth Dydd Llanfyllin

Ym mis Awst 2025, cafodd ein gwasanaeth dydd yn Llanfyllin ymweliad gan Russell George MS

Cafodd y bobl rydyn ni'n eu cefnogi yn y gwasanaeth dydd hwn gyfle i ofyn llawer o gwestiynau.

Gofynnon nhw am swydd aelod o'r Senedd, Llywodraeth Cymru a mwy.

Mencap Cymru's day service in Llanfyllin being visited by MS Russell George.jpg