Cymorth ar Ynys Mon i blant a'u teuluoedd
Mae Mencap Cymru yn falch o fod wedi cefnogi teuluoedd plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae’n brosiect sydd yn ateb y galw am gefnogaeth o safon uchel ar gyfer y plant a’u teuluoedd yn ystod y blynyddoedd cynnar.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu ein rhwydweithiau cymorth i rieni ar Ynys Môn, gan greu mannau ble gellir teuluoedd gysylltu, rhannu profiadau, a chefnogi eu gilydd drwy amseroedd anodd.
Ein nodau:
Gyda'r arian hwn byddwn yn:
- Ehangu ein rhwydwaith rhieni a gofalwyr plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
- Cyflwyno cyfres o sesiynau o weithgareddau teuluol e.e. ysgol goedwig, sesiynau chwarae synhwyraidd, llyfrgell deganau a gweithdai.
- Cyflwyno'r rhaglen EPAtS (Dulliau Cadarnhaol Cynnar o Gefnogi) ar y cyd gyda’r rhieni i gefnogi gofalwyr teuluol plant rhwng 0 – 7 oed.
- Adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'n prosiect hwb mynediad agored, trwy gynnig cyfleoedd pellach i deuluoedd gael mynediad at gefnogaeth gyfannol tra y disgwyliasant am farn meddygol a mynediad at wasanaethau arbenigol.
Mae teuluoedd ar Ynys Môn wedi dweud wrthom eu bod yn cael trafferth darganfod gweithgareddau fforddiadwy ac addas i'w plant yn ystod gwyliau'r haf.
Mae'r cyllid hwn wedi ein galluogi i gyflwyno rhaglen haf ble gallai teuluoedd a phlant chwarae a’u gilydd, a chael hwyl!
I lawer o deuluoedd, dyma'u cyfle cyntaf erioed i gymryd rhan mewn gweithgaredd ble mae eu plant yn wirioneddol cael eu cynnwys a'u croesawu.
"Ni allai bwysleisio digon pa mor bwysig y mae wedi bod i fy mhlant y gwyliau haf hyn. Mae'n rywbeth rheolaidd, mae'n rywbeth diogel, mae'n rywbeth gwahanol hefyd. Oni bai am y rhaglen haf hon, ni fuasai fy mhlant wedi bod yn mynd allan cymaint ag y maent wedi bod." - Cefnogaeth rhieni yn ystod ein rhaglen haf ar Ynys Môn.
Yn ddiweddar, rydym wedi recriwtio Cysylltydd Teulu i ddarparu cefnogaeth ychwanegol.
Fe welir yn y rôl hon berson sydd â phrofiad byw o fagu plentyn ag anabledd dysgu, yn cerdded y daith gyda rhieni trwy'r llawenydd a'r heriau.
Maent yn cefnogi gyda’r gwaith o gysylltu teuluoedd a threfnu gweithgareddau cymdeithasol i'r plant, gan ysgogi newidiadau ar draws gwasanaethau lleol a sicrhau bod lleisiau rhieni ar Ynys Môn yn cael eu clywed.
Further information | Gwybodaeth bellach
If you would like any further information about this project please email the team.
Os hoffech rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, anfonwch e-bost at y tîm.
By Mencap