Ynglŷn â’r coronafeirws yng Nghymru

Mae’r Coronafeirws (COVID-19) yn fath newydd o salwch gafodd ei ddarganfod yn gyntaf yn Tsieina. Erbyn hyn mae nifer o bobl yn y DU wedi’i ddal ac mae’n cael ei ymledu’n hawdd.

Gall pobl sy’n dioddef gan y feirws fod â pheswch neu wres uchel.

Mae Mencap Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Anabledd Dysgu Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud â’r coronafeirws yng Nghymru.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth mewn Cymraeg, Saesneg a Hawdd ei Ddeall ar wefan Anabledd Dysgu Cymru.

Ewch i Anabledd Dysgu Cymru

I gael rhagor o wybodaeth

Mae gwasanaeth coronafeirws ar-lein sy’n rhoi gwybodaeth i chi am y feirws ac os oes arnoch chi angen help meddygol.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai yr hoffech chi hefyd