Wayne Crocker - Cyfarwyddwr

Mae Wayne wedi bod yn Mencap Cymru ers 1998, pan ddechreuodd fel gweithiwr datblygu cymunedol yn y Rhondda. Ers hynny, mae wedi dal nifer o rolau polisi a dylanwadu. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mencap Cymru yn 2010, gan arwain y timau cymunedol a dylanwadu cyn cymryd cyfrifoldeb am ein gwasanaethau uniongyrchol yn 2021.

Y tu allan i'r gwaith, mae Wayne yn Ynad yn Ne-ddwyrain Cymru ac wedi dod o hyd i angerdd hwyr mewn bywyd dros dyfu llysiau.

Mencap Cymru Director, Wayne posing with a member of a local group

Jaine Evans - Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol

Dechreuodd Jaine weithio yn Mencap fel gweithiwr cymorth yn 2002. Yn 2010, daeth Jaine yn Rheolwr Gweithrediadau Ardal ar gyfer ein gwasanaethau yng Ngheredigion a Sir Benfro. Goruchwyliodd y twf yn nifer y bobl rydyn ni'n eu cefnogi yng Ngheredigion, ac yn 2024 daeth hi'n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol.

Jaine Evans

Steph Rogers - Rheolwr Gweithrediadau Ardal, De Ddwyrain Cymru

Mae Steph wedi gweithio yn ein gwasanaethau yn Ne Ddwyrain Cymru ers 2003. Mae Steph wedi arwain gwasanaethau yn Ne Ddwyrain Cymru, Sir Gaerfyrddin a De-orllewin Lloegr. Ers 2018 mae wedi bod yn Rheolwr Gweithrediadau Ardal ar gyfer gwasanaethau ym Mlaenau Gwent ac yn arwain ar Ansawdd ar draws Mencap Cymru gyfan.

Y tu allan i'r gwaith, mae Steph yn mwynhau garddio a threulio amser gyda ffrindiau.

Steph

Derek Adams - Pennaeth Gweithrediadau

Dechreuodd Derek ei yrfa gyda Mencap ym 1991 fel gweithiwr cyswllt cymunedol yng Nghwm Cynon. Yn un o'r aelodau staff sydd wedi gwasanaethu hiraf, mae Derek wedi arwain ein gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ers 15 mlynedd. Fel Pennaeth Gweithrediadau, mae’n gyfrifol am linell gymorth Anabledd Dysgu Cymru, ei gweithwyr achos rhanbarthol, a’r prosiect Compass yn Sir Gaerfyrddin, ac ef yw ein harweinydd blynyddoedd cynnar.

Mae Derek wrth ei fodd yn moduro, DIY, a bod yn ei garafán gyda'i deulu yn Tewkesbury.

Derek Adams, Head of Operations

Sian Davies - Pennaeth Effaith a Dysgu

Ymunodd Sian â Mencap yn 2007 fel Rheolwr Prosiect y Prosiect ‘Partners in Politics’. Heddiw mae Sian yn gyfrifol am gefnogi timau, gwasanaethau a phrosiectau i ddeall pa effaith y mae ein gwaith yn ei chael ar fywydau pobl. Bydd hi hefyd yn cefnogi timau i fyfyrio ar sut i weithio’n fwy cydgynhyrchiol, sy’n ymwneud â rhannu pŵer a gwneud penderfyniadau gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.

Allan o’r swyddfa, mae Sian yn mwynhau darllen, teithio, treulio amser gyda’r teulu.

Sian Davies, Head of Impact & Learning

Vicky George - Cydlynydd Swyddfa'r Prosiect

Ymunodd Vicky â Mencap Cymru yn 2017 fel Gweinyddwr Ardal ar gyfer Ceredigion a Sir Benfro. Ers hynny, mae hi wedi dal rôl Rheolwr Gweinyddiaeth Ranbarthol, cyn cael ei phenodi'n Gydlynydd Swyddfa'r Prosiect yn 2024. Mae gan Vicky Lefel 5 QCF mewn Rheoli Gofal (Ymarferydd Uwch), ac mae hi'n gyfrifol am reoli'r tîm Gweinyddiaeth.

Mae hi'n darparu cefnogaeth i'n Cyfarwyddwr a'n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, a hefyd ein timau Cyngor a Gwybodaeth, a Chymunedau. Yn ogystal, mae Vicky yn gweithio un diwrnod yr wythnos ar Linell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru.

Y tu allan i'r gwaith, mae Vicky yn mwynhau cerddoriaeth, caligraffi modern a darllen. Mae ganddi dair merch sydd wedi tyfu i fyny, a thri o wyrion.

Vicky George